Cynghorydd Colin Petrie
Symudodd fy nheulu a fi i Gwmgors yn 2018 ac mae ein mab ifanc yn mynychu'r ysgol Gymraeg leol.
Cefais fy ngeni a'm magu yn Llundain yn wreiddiol ond gyda theithiau a gwyliau mynych i Gymru a Chwm Rhondda yn arbennig, o ble y daeth fy mam.
Mae gen i gefndir mewn TG, yn gweithio i Gyngor Llundain, am bron i 30 mlynedd, yn cefnogi, datblygu a rheoli eu systemau TG. Es ymlaen i dreulio'r 10 mlynedd diwethaf fel uwch gynrychiolydd undeb GMB, gan gefnogi aelodau ar draws Awdurdod y Cyngor gan gynnwys o fewn ysgolion.